E-bostiwch yr ymgeiswyr yn eich ardal chi ar gyfer Etholiadau Senedd 2021

Disgwylir i'r etholiad Senedd nesaf gael ei gynnal ar Fai 6ed, 2021. Nid yw Equity yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol, ond credwn ei bod yn hanfodol bod ein haelodau'n pleidleisio a bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Gallwch ddefnyddio'r templed y gellir ei olygu ar y dudalen nesaf i ysgrifennu at rai neu bob un o'ch ymgeiswyr lleol, gan ofyn iddynt gefnogi gofynion maniffesto Equity.

Gallwch ddarllen mwy am y manylion y tu ôl i'n penawdau maniffesto yma. Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn cynnal digwyddiadau i lobïo pob plaid wleidyddol i amddiffyn a hyrwyddo'r sector creadigol a'r gweithwyr yn ein diwydiannau, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit a'r adferiad o bandemig Covid-19.